*** START OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK 68973 ***
Y Ddwy Chwaer
Golygwyd gan Cranogwen (Sarah Jane Rees)
Y Ddwy Chwaer - Y Frythones Cyfrol 1 Rhif 1, Ionawr 1879 - Ffeithiau Hanesyddol
Yn y flwyddyn 1536, yn ystod teyrnasiad yr anwadal a'r nwydlawn frenin, Harri yr Wythfed, pan nad oedd dyogelwch dynion, a meddianau ond drychfeddyliau gogoneddus yn ymddangos yn unig ar glogwyni breuddwydion y nos, neu yn hofran yn ngwaelodion cymoedd dychymygion y dydd, i broffwydi a beirdd, safai y bwthyn isel cyffredin a gwledig yr olwg arno, ar lan y môr ar ochr ddwyreiniol Kent. Yr oedd ei sefyllfa yn unig i'r eithaf; y môr eang o'i flaen, yn chwythu ei ewyn i fynu i'w ffenestri, a rhu y tonau oddidano, wrth ymosod ar y creigiau ysgythrog ac oesol, yn peri i ddaear a nefoedd ymddangos, y naill yn gwgi a'r llall yn crynu o arswyd. Yr oedd yr holl olygfa gan fynychaf yn peri braw a synedigaeth.
Yn eistedd ar y ddaer las o flaen y bwthyn, ac yn edrych allan yn awyddus a chraff tua'r môr, ar fonwes aflonydd yr hwn yr oedd pelydrau olaf yr haul yn awr yn disgyn yn lledorweddog, yr oedd dwy ddynes, gallwn eu galw yn ddwy foneddiges, yr hynaf oddeutu 21ain oed, yn ddynes ieuanc brydweddol iawn yr olwg, ei gwyneb yn brydferth a theg, ond yn bur llwyd, ac yn dwyn arno argraff o brudd-der diamheuol, Yr oedd ei phen yn gorphwys ar ei llaw, ei llygaid tyner a llawn yn llaith gan ddagrau, a'i gwallt yn disgyn yn gydynau annhrefnus oddidan ei het wellt. Llances anwyl yr olwg arni oedd y llall, prin yn bymtheg oed; ei gwyneb o'r bron fel gwyneb cerub, a'i gwên lawen, oleu, ysgafn-galon, yn ffurfio gwthgyferbyniad neillduol i ddifrifwch dwys ei chwaer.
“Mary,” meddai y flaenaf, “rwy'n ofni na ddaw Ernest yn ol heno: 'rwy'n methu yn deg a darganfod y bad ac y mae fy ysbryd yn ymollwng wrth feddwl treulio oriau meithion y nos hon eto, at y pedair o'r blaen, heb ei weled. O! Mary, y mae yn beth enbyd i fod yn rhwym wrth un y mae ei fywyd wedi ei fforffedu i'w wlad, pob cam iddo hyd lwybr llawn o beryglon, a'r bywyd y mae yn ei arwain yn ei wneuthur yn agored i warth sicr, ac o bosibl, i angau gwaradyddus. Mor annyoddefol yw meddwl fod fy anwyl, fy ngymhar Ernest, yr hwn unwaith a droai mewn llysoedd gwychion, yn nghwmni pendefigion arglwyddi, yn uwchaf o'r rhai uchel, yn cael ei edmygu gan bawb a'i gwelent, ei fod yn awr wedi ei ddarostwng mor isel fel ag i fod yn — forleidr, yn fradwr i'w frenin ac i'w wlad, a gwobr wedi ei chynyg am ei fywyd, a'r rhai unwaith a ymdorheulent yn ei ffafrau, ie, yn wir, a lyfent y llwch oddidan ei draed, yn awr fel cynifer o helgwn yn ei erlid eu goreu. Y mae ffawd hyd yn hyn wedi ei lwyddo yn ei anturiaethau, ond y mae gormod yn dyheu am ei ddinystr, ac yn sychedu am ei waed, iddo allu dianc ar eu cynllwynion lawer yn hwy. O'r anwyl! mor ddirboenus ydyw fod yn sydd yn cael ei garu mor angherddol yn cael ei amgylchynu gan y fath beryglon, ac i feddwl, bob tro y bydd yn troi i ffwrdd, y gall mai heno fydd yr olwg olaf arno.”
Erbyn hyn, yr oedd ei theimladau wedi ei llwyr orchfygu, a'i dagrau yn llifo fel dwfr gwlaw hyd ei gruddiau gwelw, tra y ceisiai Mary ei chwaer, trwy bob tynerwch y medrai ei arfer, leddfu ei gofid, a chwalu yr ofnau yr oedd ei chalon ieuanc ei hun yn cyfranogi yn helaeth o honynt.
“Cedwch, eich ysbryd i fynu, fy anwyl Kate,” meddai'r llances serchog, “fe ddaw Ernest yn ol eto, chwi gewch weled, ac yna ni a arferwn bob dylanwad a fyddo bosibl i gael ganddo roddi y gwaith hwn, y sydd mor annyoddefol o ddarostyngol a phoenus iddo ef ac i ninau, i fynu. Sychwch! eich llygaid, anwylaf Kate,” meddai gan ychwanegu, “oblegid gwelwch,” gan gyfeirio tuag at gilfach neillduol rhwng y creigiau, “dacw fad y boneddwr ieuanc sydd wedi talu ymweliad a ni yn ddiweddar. Peidiwch gadael iddo eich gweled yn wylo, o ran gallai ofyn yr achos o hyny, a gwyddoch nad allem egluro iddo.”
Mewn ufudd-dod i'w chwaer, ceisiod Kate ymdawelu, sychodd ei dagrau, a thaclodd ei hun ychydig ar gyfer ymddangosiad y ddyeithrddyn oedd yn awr wedi tirio o'r bad (yr hwn a gylymasai wrth delpyn o'r graig) ac yn dringo i fynu atynt, gan neidio fel ewig o ddant i ddant i'r ysgythredd. Yr oedd llygaid Mary yn ymbelydru o lawenydd plentynaidd fel y gwiliai ei symudiadau, ond yr oedd gwedd ei chwaer yn pruddhau ac yn dwyseiddio, ac yn amlygu baich o bryder yn gorwedd ar ei hysbryd.
Gan droi at ei chwaer, dywedai yn frysiog, “Mary,” waeth i mi gyfaddef, nid wyf fi yn hoffi ymddangosiad dyeithriaid yn y lle hwn, gall ddwyn gofid. Nid am fy mod yn ofni hwn, y sydd yn ymddangos ac wedi profi ei hun mor garedig ac anwyl, ond y mae hyd yn nod cysgod dyn yn y gymdogaeth hon, yn cyffroi ac yn dychrynu fy nghalon. Deuwch i'r tŷ, fe ddengys hyny nad ydym yn dewis ei roeswi.” A chan ddywedyd felly, hi gyfododd, ac a dynodd tuag at y glwyd wiail fechan ar gyfer y drws.
Gwelodd y gwr dyeithr hi yn ymsymud, prysurodd ei gamrau, ac yr oedd yn union ar eu pwys. Aeth Kate heibio iddo ac i'r ardd gyda moesymgrymiad isel, ond arosodd Mary wrth y glwyd. Ar y cyntaf, petrusai pa un a wnai ganlyn ei chwaer ai peidio, ond gan fod edrychiad siomedig a gwedd erfyngar y gwr dyeithr yn apelio mor gryf at ei thynerwch a'i chydymdeimlad, hi arosodd.
“Nis gallaf ddyoddef iddo gael ei glwyfo gan ymddygiad oeraidd fy chwaer,” meddai. “Ni wna rhyw dair mynyd o ymddyddan ag ef lawer o wahaniaeth, ac awgrymai iddo beidio dyfod mor aml.” Ond ymestynodd tair mynyd Mary i yn agos dair awr. Amlygodd ei dymuniad ar iddo beidio cymeryd y drafferth i ymweled a hwy felly mor aml, ond yr oedd yn rhy hawdd deall mai nid o helaethrwydd ei chalon y llefarai ei genau y geiriau hyny, a phrydnawn tranoeth, gwelid y bad bychan yn cael ei rwyfo i'r un gilfach a'r dyddiau o'r blaen, a Mary fel cynt yn anghofio holl neillduolion a pheryglon ei sefyllfa yn nghymdeithas swynorchfygol y dyeithrddyn boneddigaidd ac urddasol. Yna, pan ddelai yr hwyr, byddai y bad yn llithro ymaith yn lladradaidd heibio i drwyn y graig, a Mary ar ymyl y clogwyn uwchben yn ei wilio, ac yn chwyfio ei “Nos dawch ” garuaidd rhwyfwr llawen.
Dychwelai oddiyno i'w chartref bychan ac i'w gwely, ac ehedai ei mheddwl yn mhell i'r dyfodol hyd faesydd meillionog breuddwydion teg. Yn ofer y cymhellai Kate arni ystyried perygl y gyfeillach hon. Yr oedd yr ymgydnabyddiaeth wedi dechreu mewn amgylchiad a roddasai y chwiorydd, Kate yn arbenig, mewn dyled drom i'r gwr dyeithr, yr hyn hefyd a ddygai Mary bob amser yn rheswm cryf, dybiai hi, dros beidio ymddangos ac ymddwyn yn angharedig.
Yr oedd y boneddwr dyeithr wedi achub bywyd anwyl ac unig blentyn Kate, baban blwydd a haner oed, rhag dyfrllyd fedd, pan yn anffodus, ryw ddiwrnod, y cwympodd dros ymyl y graig i'r môr. Yr oedd y gwr ieuanc yn rhwyfo o gwmpas yn ei fad, pan y tynwyd ei sylw gan ysgrechiadau torcalonus y fam, a gallodd dynu i'r fan yn ddigon buan i achub y plentyn oedd ar soddi. Daeth i'r lan â'r trysor gwerthfawr yn ei freichiau, a'r cyntaf i'w gyfarfod, wedi sangu o hono ar y traeth, ac i dywallt ei bendithion ar ei ben, oedd Mary. Safai yno ger ei fron, yn ddarlun o brydferthwch, ei gwallt gwineu godidog yn nofio yn yr awel yn gydynau cyfoethog oddiamgylch ei gwddf tlws, a gwrid tyner ei gwyneb teg wedi ymgodi i'w lanw uwchaf ar flaen ystorm y pryder a'r dychryn a ddaethai drosti. Gan dybied mai rhyw bysgotwr a ddaethai mor amserol i achub y trysor colledig, a chan fod y fam, o ddwylaw yr hon y llithrodd dros y dibyn, wedi llewygu gan ddychryn, rhuthrodd Mary yn mlaen i'w dderbyn oddiwrtho. Ond pan welodd o'i blaen ddyn dyeithr, tal, golygus, boneddigaidd, yn nghyflawnder nerth and harddwch dynol, rhuthrodd ton o wrid tanbeidiol dros ei gwyneb teg, ac o'r bron na chiliodd yn ei hol. Cyflwynodd eu cymwynaswr hael y bychan diniwed iddi gyda gwen swynol, yr hon ar unwaith a dreiddiodd i ddyfnderoedd calon y ferch bur.
Yr oedd Edward Seymour (canys felly yr oedd ei enw) wedi ei ddwyn i fynu yn nghanol prydferthion o waed a bonedd; yr oedd wedi arfer byw yn mhlith pendefigion ac arglwyddesau, a throi mewn llysoedd, ond erioed ni welsai greadur mor deg, mor bur ac anwyl a'r un yn y wisg wledig a chyffredin yn awr o'i flaen; yr oedd ei hedrychiad gwylaidd a gochelgar, a'r argraff o ddiniweidrwydd pur ar ei gwyneb, yn ffurfio gwrthgyferbyniad nodedig i eofndra neu fursendod ereill y buasai efe arferol a hwy, fel yr oedd y darlun tlws yn awr o'i flaen, iddo ef mor newydd ag ydoedd ddymunol. Hwn oedd cydgyfarfyddiad cyntaf Mary a'r dyeithrddyn.
Pan ddarganfyddodd y boneddwr fod y meddwl y daethai o hyd iddo fel hyn mor ddamweiniol, lawn mor swynol a'r corff, felly yn breswylydd teilwng i'r palas gwych, synwyd ef yn ddirfawr. Nid llances gyffredin fodd yn y byd oedd yr un yn y wisg wledig, a'r bwthyn isel ar lan y mor, ond boneddiges berffeithiedig, moes yr hon oedd wedi ei ffurfio yn y gymdeithas uwchaf a phuraf, a'i grasau o ymddygiad wedi eu planu gan law gelfydd, ond yr hyn a'i swynai ef yn hollol orchfygol ydoedd, fod y cwbl hyn dan orchudd cyflawn y gwyleidd-dra a'r lledneisrwydd benywaidd mwyaf swynol.
Yr oedd dyddiau yn myned heibio, ac Edward yn ymwelydd cyson a'r bwthyn unig; yr oedd castell ei dad, Syr John Seymour, o fewn rhyw ddwy filldir i'r lle. Yr oedd yn amlwg iddo fod rhyw ddirgelwch yn aros uwchben haniad a sefyllfa bresenol y chwiorydd hyn, ond yr oedd yn amlwg eu bod yn dymuno cadw eu cyfrinach iddynt eu hunain, ac yr oedd yntau, gan hyny, yn ymfoddloni ar fwynhau y mynydau dedwydd yn eu cymdeithas, heb geisio gwybod yr hyn a aethai heibio, na threiddio i'r hyn a ddeuai.
Yn hwyr un diwrnod, ryw gymaint o amser ar ol ymadawiad Edward, pan oedd yr awyrgylch yn dywyll a llaith, a'r ffurfafen yn gymylog a bygythiol, gellid gweled llestr bychan chwimwth, carpiog yr olwg arno yr un pryd, yn llithro yn mlaen gyda'r lan, yn agos iawn i'r graig, oddiwrth yr hon, gan mor rhuddgoch a thywyll ei hwyliau a'i raffau, nis gellid ond yn brin ei adnabod. Nesäai yn lladradaidd, nes o'r diwedd ddyfod yn mlaen i'r gilfach y soniwyd am dani, yna taflwyd angor yn ddystaw, rhoddwyd cwch bychan allan, yr hwn yn union a gyfeiriwyd tua'r lan. Yr oedd Kate yn gwylio yr holl symudiadau â llygad pryderus, a chyn pen mynyd o'r bron wedi darganfod pwy ydoedd yno, yr oedd ar y traeth ac yn mreichiau ei gwr.
“Fy anwylaf Ernest,” meddai, “mor angerddol o bryderus yr wyf wedi dysgwyl am danoch. Nid oes genych ddychmyg mor druenus wyf wedi bod yn ystod eich absenoldeb; buoch yn hwy y tro hwn nag erioed.”
“Fy anwyl Kate,” meddai ei gwr, “rhaid i chwi beidio rhoddi lle i ofnau gweiniaid a phlentynaidd. Yr wyf wedi gwneyd taith feiddgar a rhamantus y tro hwn, ac os gwena ffawd arnaf heno, ni a ddygwn i dir lwyth mor werthfawr ag un a groesodd y cyfyngfor (straits) erioed.”
“Brysiwch, fy ngwyr,” meddai, gan droi at y crew, “gwnewch bobpeth yn barod, a chyfarfyddaf â chwi yn mhen awr wrth Ogof y Cawr (Giant's Cave), a phan fyddo pobpeth wedi ei orphen, allan â ni drachefn i'r môr, gyda'r un lwc, ni a obeithiwn, ag a'n dygodd ni yma.”
Ocheneidiai Kate wrth feddwl am yr enyd fer a roddid iddi i fwynhau cymdeithas ei phriod anwyl, ei hanwylaf Ernest oedd iddi yn ddymuniad ei llygad — yn bobpeth yn y byd. Ni wnai, pa fodd bynag, aflonyddu ar fwynhad y mynydau gwerthfawr hyny drwy ollwng ei gofid allan, Ceisiai ei goreu i ymddangos yn ddedwydd.
“Edrychwch ar ein bachgen tlws,” meddai, “mor felus yw ei hun. Onid yw yn alarus na chewch ei glywed yn galw ar ei dad. Yr wyf wedi dysgu llawer o eiriau iddo er pan fuoch gartref o'r blaen. O! Ernest, wyddoch chwi, bum bron a cholli yr angel bychan, buaswn wedi ei golli oni buasai am ryw wr dyeithr a ddanfonodd Rhagluniaeth i'w achub i mi, yr oedd yn safn dyfrllyd fedd! O'r anwyl.”
Yna adroddodd yr holl ystori; dywedodd yr adnabyddiaeth a gawsant felly ar Edward Seymour, ei ymweliadau mynych â hwy er hyny, a hoffder ymddangosiadol Mary ac yntau o'u gilydd, a'r holl ddygwyddiadau bychain a gymerasant le i dori ar unffurfiaeth eu bywyd unig er ei ymadawiad.
Ymgasglodd cwmwl ar ael Ernest wrth iddo glywed am ymweliadau Edward Seymour.
“Gall fod yn hollol anrhydeddus,” meddai, “ond y mae y rhai hyn yn amseroedd enbyd — yn amseroedd pan y mae esiampl cylchoedd uchel yn llygru moesau pobl ieuainc. Dylai Mary fod yn ochelgar iawn i ffurfio cydnabyddiaeth agos â gwr hollol dyeithr fel hwn; a chwithau, fy anwylyd, dylech feddwl wrth ganiatau i'w ymweliadau barhau, y gellwch felly agor ffordd i'm dwyn i i'r ddalfa, ac hwyrach i ddinystr anamserol. Cydymddygwch â'r unigrwydd a'r ymddidoliad yma, fy rhai anwyl, am ychydig eto. Yr wyf wedi hollol flino ar y bywd diraddiol ac enbydus hwn, ac wedi penderfynu mai y wibdaith nesaf a fydd fy olaf. Yr ydwyf wedi casglu digon o gyfoeth i'n galluogi i fyw mewn llawnder mewn rhyw wlad arall. Ni ymadawn â'r wlad hon, y sydd yn garwch gormes, a gweithredoedd o anghyfiawnder a barbareiddiwch, ac mewn rhyw gongl heddychol a thawel o'r ddaear, ni fyddwn fyw yn foddlawn yn nghymdeithas ein gilydd, gan ymddedwyddu hefyd yn ein bachgen tlws, bywyd teilwng yr hwn, mi obeithiaf, a wna iawn i ryw fesur am eiddo ei dad yn y presenol.
“Yr ydwyf yn hollol foddlawn, anwyl Ernest,” meddai Kate, “i ganlyn eich tynged chwi i unrhyw ysmotyn at wyneb y ddaear. O! na fyddai ffawd yn drugarog, ac na roddid i chwi ddychweliad buan a llwyddianus. O! gan y Nefoedd, nad hwn fyddai y tro olaf i chwi fyned i ffwrdd. Ai ni ellwch, anwyl Ernest ein cymeryd ni gyda chwi yn awr, a rhoddi i fynu y meddwl am y trip olaf yma? Nid wyf yn gwybod paham, ond y mae fy nghalon i yn proffwydo drwg, ac yn fy ngwneuthur yn hynod o anesmwyth wrth feddwl ymadael â chwi y tro hwn.”
Chwarddodd Ernest ei hofnau i ffwrdd, ac ymdrechai ei chysuro. Yr oedd ei ymrwymiadau yr ochr arall i'r môr yn gyfryw nad oedd bosibl iddo ymddwyn yn wahanol i fel yr oedd wedi cynllunion. Gan ddymuno arni gadw ei hysbryd i fynu, a'i chofleidio drachefn a thrachefn, efe o'r diwedd a ymryddhaodd o'i gafaelion, a chan gymeryd ei faban bychan hoff i fynu o'i gadair ac o'i gwsg, efe a argraffodd gusan cynhes ar ei foch. Disgynodd deigryn poeth ar ei rudd fechan, ac i guddio llawn o deimlad nas gallai mwyach ei orchymyn yn ol, rhuthrodd Ernest allan i'r nos ac i'r tywyllwch.
Cyfeiriodd ei gamrau tua Ogof y Cawr, yr ymguddfa yr addawsai gyfarfod ei ddynion ynddi. Cwmni o gymeriadau “disprad ” (desperate) oedd y rhai hyn, hollol ddiofal o fywyd a chymeriad. Pwy a dybiai mai yr un oedd yr hwn fynydau yn ol a blygai gyda thynerwch tadol uwchben ei faban tlws, ac a wasgai ei wraig dyner yn garuaidd i'w fonwes, ag y sydd yn awr gyda llais taranllyd, a symudiad eofn a phenderfynol, yn arwain y griw fileinig hyn yn eu galwedigaeth anghyfiawn a drygionus — creaduriaid nad ydynt yn gofalu am neb, nac yn ofni neb na dim ar wyneb y ddaear, ond y neb y sydd yn awr yn eu gorchymyn gyda llaw gref yn ol ac yn mlaen wrth ei ewyllys.
Erbyn hyn, yr oedd y cwbl yn gyffro a therfysg. Mewn ychydig iawn o amser yr oedd y llwyth i gyd wedi ei ddwyn i dir, y dwylaw eto ar fwrdd yr helfad, yr angor wedi chodi, a hwythau wedi llithro yn ddystaw allan i'r bay. Wedi rhoddi pob modfedd o gynfas i fynu, yr oeddynt yn fuan eto yn aredig y dyfroedd dyfnion allan yn mhell, a phen y llestr yn cyfeirio at lenydd La Belle, France.
Er gwaethaf y tywyllwch, gellid gweled napcyn gwyn yn chwifio ar fwrdd y bad. Dyrchafodd Kate waedd o gyni, a chan syrthio ar ei gliniau, offrymodd weddi daer at y Duw Hollalluog, ar iddo wylio dros ac amddiffyn ei gar, a'i ddwyn yn ol iddi yn ddyogel o'r peryglon lawer yr oedd yn awr eto yn rhuthro allan iddynt. Parhaodd i syllu ar y dyfroedd tywyll, tra y tybiai fod cysgod y cwch heb lwyr ddiflanu, yna yn bryderus a blin, trodd i'w thŷ ac i'w gorphwysfa, nid i gysgu yn wir, yr oedd ei chalon yn rhy glaf-gysgu, ond i anadlu i'r nef ocheneidiau a gweddïau cyson am ddychweliad buan a sicr ei hanwyl wr. — (I'w barhau.)
Y Ddwy Chwaer - Y Frythones Cyfrol 1 Rhif 2, Chwefror 1879 - Ffeithiau Hanesyddol
Mewn castell godidog, ddwy filldir oddiwrth y môr, yn cael ei amgylchu gan barciau eang, gerddi, a'r holl ddymunoldeb a'r gwelliantau y medr celfyddyd eu hychwanegu at natur, y mae yr olygfa yn ymagor yn awr. Yn ymrodio o gwmpas hyd y maesydd teg un diwrnod, yn ngwisgoedd neillduol ac ardderchog y dydd, a ddynodent, yn llawer mwy nag y gwna gwisgoedd y dyddiau hyn, y gwahaniaeth rhwng bonedd a gwreng, gellid gweled dau bendefig ieuanc, a'r ymgom rhyngddynt yn ymddangos o ddyddordeb arbenig i'r ddau fel eu gilydd. Edward Seymour, eisoes o flaen ein darllenwyr fel yr ymwelydd cyson â'r bwthyn ar ben y graig, ydoedd un, Arglwydd St. Vincent y gelwid y llall, pendefig a gydnabyddid fel un o'r rhai harddaf yn gystal a mwyaf uchelfrydig yn holl amgylchoedd y llys.
“Seymour,” meddai'r Iarll, “yr wyf yn dysgwyl i chwi fy llongyfarch ar ran fy ffawd ryfeddol dda. Yr wyf y creadur mwyaf lwcus drwy holl swydd Kent, ac yr wyf yn awyddus i fynegu i chwi, y sydd yn proffesu cyfeillgarwch â mi, achos fy llawenydd.”
“Y mae Arglwydd St. Vincent mewn tymher hynod o foddus,” meddai Seymour, gan chwerthin. “Da chwi, peidiwch a'm cadw yn hir mewn pryder; gadewch i mi ar unwaith gael y wybodaeth a rydd i mi o'r digrifwch.”
“Yr wyf mor llawen, prin y gwn yn mha le i ddechreu,” meddai'r Iarll, “ond rhaid i mi yn gyntaf adrodd i chwi yn fyr rai o'r anturiaethau yr wyf wedi eu gwneuthur yn ystod fy oes fer, ond llawn o ddygwyddiadau. Gwyddoch yr ystyrir fi yn gyffredin yn ddyn ieuanc golygus a thanbaid, da yr olwg, a diguro o benderfyniad; dywed y boneddigesau o leiaf fy mod felly, ac y mae genyf achos i gredu y dywedir hyn yn wir. Gallaf ymffrostio mewn llawer o lwyddiant yn rhinwedd ac o herwydd yr ansoddau hyn. Wrthych chwi, Seymour, yr wyf yn cyfaddef, mai un o rymusderau yn gystal ag un o wendidau fy mywyd i a fu ceisio cael fy nghydnabod yn edmygol ac yn addolgar gan y rhyw deg — cael edrych i fyny ataf, fy anrhydeddu a'm hystyried yn gyfryw ag y byddai yn urddas cael sylw ganddo, ac yn fraint bendefigaidd cael cynyg ar fy llaw. Hyn a fu un o amcanion fy mywyd, ac yr oedwwn yn ei gyrhaedd bron yn ddifeth. Anturiais lawer yn y cyfeiriad hwn, a phob amser gyda llwyddiant godidog, llawn ddigon i foddhau holl oferedd fy meddwl. Pa fodd bynag, yr wyf ar fedr cyfaddef i chwi, i mi ar un achlysur gael fy ngorchfygu yn hollol, a hyny pan yr oedd llwyddo yn fwy pwysig yn fy ngolwg nag ar unrhyw achlysur arall ar hyd fy oes; ac y mae chwerwedd y siomedigaeth hono yn suro fy mywyd er hyny hyd y pryd hwn.
“Oddeutu tair blynedd yn ol, yr oedd gan ein hardderchog Frenin Harry genadwri o bwys i'w danfon i Kimbleton, lle y trigai Catherine ei wraig, a'i frenines flaenorol. Cefais i fy newis i fod yn un o'r negesuwyr, mewn undeb ag Ernest, Duc Hamilton, oedd y pryd hwnw mewn ffafr uchel gerbron ei Fawrhydi. Yr oeddym ill dau yn mhob ystyr yn gydymgeiswyr, ac nid ychydig oedd y dyfalu pa un o honom ydoedd yn fwyaf tebyg i gyrhaedd pinacl uchaf ffawd. Cychwynasom ar ein neges a gosgordd gref o farchogion ac ysweiniaid yn ein canlyn; ac ar y daith wrth glustfeinio yn gyfrwys, dygwyddais i glywed siarad rhwng y cwmni, ag a gynhyrfodd holl falchder ac oferedd fy nghalon. Yr oedd taeru lawer wedi bod yn y llys gan y Brenin Harry ac ereill, ac ar ran Duc Hamilton a minau, megys pa un o honom oedd y galluocaf, y cyflymaf, y cyfrwysaf, y gwrolaf, ac felly yn y blaen, a pha un a edmygid yn fwyaf yn y llys a'r tuallan iddo. Aethpwyd mor bell a gwystlo cryn lawer y naill ochr a'r llall, a dyfeisiodd y brenin gynllun cyfrwys i benderfynu y cwestiwn, yn hwn hefyd y gobeithiai am lawer o ddifyrwch wrth wylio ei ymddadblygiad. Yr oedd si ar led fod yn llys y Frenines Waddolog ferch ieuanc o degwch bron anghymarol, merch-fedydd i'r frenines, ac mewn ffafr fawr ganddi, o'r enw Kate de Montford. Fel y mill a flodeua allan o olwg pawb, yr oedd y blodeuyn hwn o degwch ac anwyldeb wedi ei dwyn i fynu yn y cysgod, dan len, ac nid oedd un llygad drwg na gwamal, o gywreinrwydd nac edmygedd, wedi disgyn arni eto, i aflonyddu ar ymddadblygiad ei godidawgrwydd. Yr oedd wedi bod yn brif ddifyrwch yn frenines anffodus, lle yr hon ar yr orsedd a fwynheid yn awr, gan ei chydymgeisyddes swynol Anne Boleyn, i wylio ei thegwch cynyddol, ac i wrteithio ei mheddwl pur.
“Yr oedd Kate de Montford yn awr yn ddeunaw oed, a'r Brenin Harry wedi clywed o hono am ei phrydferthwch godidog, a ddyfeisiodd y cynllun o'n cychwyn ni ill dau ar yr un helfa, a thrwy roddi i ni yr un cyfleusderau i wneuthur prawf teg pa un o honom a enillai fwyaf o ffafr yn ngolwg y bendefiges ieuanc. Bwriad, gan hyny, ac nid dygwyddiad, fel y oeddym ni yn tybied, a'n gwnaeth yn gymdeithion ar y neges diplomyddol yma, ac anaml debygem y rhedodd teimlad partïol yn uwch nag y gwnaeth o berthynas i ganlyniadau tebygol yr hynt hon.
“Cyrhaeddasom lys y frenines ysgaredig, a thra yr oedd Hamilton yn hollol anhysbys o'r trysor mewn golwg, yr oedd ffawd wedi ei ddadguddio i mi, ac yr oeddwn a'm llygad arno. Nid oedd y son oedd ar led am degwch y ferch ieuanc yn unrhyw ormodiaeth. Ni welais a'm llygaid erioed y fath gynllun perffaith o degwch, urddas, a lledneisrwydd; digon yw dywedyd i'r olwg gyntaf arni gaethiwo fy holl feddwl ac enill fy holl fryd, ac fel yr aeth pobpeth a enillaswn o'r blaen, neu y gallwn ei enill eto, yn ddim yn fy ngolwg, wrth a fuasai meddianu y trysor hwn, penderfynais y mynwn ei feddianu, penderfynais yn orphwyllog, gan nad faint fyddai y draul, gan nad pa aberth y byddai yn rhaid ei wneyd, mai fy eiddo i a fyddai Kate de Montford. Mor ddirfawr yr oedd fy holl dymher wedi ei chynhyrfu.
“Dechreuais ar unwaith, arferais bob dyfais a phob hud; astudiais, ymegniais, ac ymorchestais, ond y tro hwn i gyd yn ofer; cefais y siomedigaeth annyoddefol o weled Hamilton yn cael y goreu arnaf, ac yn derbyn y gwenau y llafuriwn i am danynt mor angerddol. Ymchwyddai fy monwes o ddigofaint wrth ei weled fel hyn yn enill ffafr y ferch a'r fam, oblegid yr oedd y frenines hefyd yn dangos partiaeth iddo, ac yn ymddangos yn ei hoffi. Melldithiwn ef am ddwyn y trysor megys o'm llaw, ac hyd yn nod yn awr yr wyf yn ei felldithio o ddyfnderoedd fy ysbryd.
“O herwydd nad ydoedd yn cael ei gydnabod a'i dderbyn, cynyddai fy edmygedd o'r ferch ieuanc o'r bron i gynddaredd; teimlwn fy hun yn ymwallgofi, ac yn llosgi o awydd ymddial. Un prydnawn, wrth ymlwybro o honof oddiamgylch i'r palas, cyfarfyddais â gwrthrych fy holl feddyliau yn ymrodio, hithau wrthi ei hun, ac yn hollol analluog i lywodraethu fy nheimlad ynfyd, ymostyngais fy ngliniau o'i blaen, a chymhellais hi i wrandaw arnaf yn dadgan fy serch. Dychrynwyd hi raddau gan yn ymdrech annaturiol; nid oedd yn ei ddeall, a cheisiod fy osgoi, a myned ymaith, ond wrth i mi ddal gafael gref yn ei llaw, ac ymhyfhau i ddweyd fod yn rhaid iddi wrandaw arnaf, atebodd yn llednais, ac eto yn hollol benderfynol, fod yn ddrwg ganddi fod yn achos cymaint o boen, ond nad oedd yn ei gallu ddychwelyd y caredigrwydd, o herwydd fod ei chalon eisoes yn eiddo un arall.
“Yr wyf yn adwaen,” meddwn, gan neidio ar fy nhraed yn debycach mi wn i deigr nag i ddyn yn ceisio gwneuthur cariad — “yr wyf yn adwaen y dyn sydd yn beiddio rhuthro rhyngwf a'm dedwyddwch, a chaiff y cleddyf hwn yfed gwaed ei galon.”
“Newidiai Kate ei lliw, ac ymddangosai yn gyffrous iawn wrth swn fy mygythion, ond ymdrechai guddio ei theimlad, a chyda gwen grynedig dywedodd, “Yn wir, fy Arglwydd, yr ydych yn rhoddi i mi ormod o gydnabyddiaeth, gellwch fod yn sicr fy mod yn teimlo yn ddiolchgar, ond dychwelyd y caredigrwydd yn ei natur ei hun nis gallaf — y mae fy addunedau wedi eu gwneuthur i arall.”
“Rhuthrodd ton o wrid dwfn i'w gwyneb teg wrth iddi ddywedyd hyn, a theimlwn inau gywilydd, ond nis gallwn roddi i fynu. Yr oedd golwg ar y fath degwch pur a diymhongar yn fy ngwallgofi. Dynesais ati, ac er ei goreu i'm hysgoi, cymerais hi yn fy mreichiau, a dywedais er gwaethaf ffawd a'r holl elfenau, y cai fod ryw ddiwrnod yn eiddo i mi. Tynodd ei hun o'm gafaelion, ac ymddangosai ei monwes yn ymchwyddo o ddigofaint cyfiawn at fy ymddygiad eofn ac anwrol. Rhoddidd waedd o ddychryn, a chyd hyny, clywwn droediad ysgafn a hoew y tu ol i ni, ac ar unwaith, a'm gwyneb yn cyneu o lid, cefais fy hun dan ddau lygaid tanllyd Hamilton.”
“Y llwfryn gwael,” meddai, “a feiddiwch chwi anmharchu boneddiges ddiamddiffyn? Dadweiniwch, a pharotowch i ateb am eich hyfdra anfaddeuol.”
“Gan ddadweinio ei gleddyf, efe a roddedd ei hun mewn agwedd o hunan-ddiffyniad, a minau yn hollol chwanog i'r ernest, a symudais yn mlaen tuag ato, gan lawn fwriadu tywallt ei holl waed.
“Am rai eiliadau, safasom yn hollol lonydd, heb wneuthur ychwaneg na hylldremu y naill yn ngwyneb y llall, a'n llygaid ein dau yn tanbelenu o'r digofaint mwyaf angeuol. Yn mhen rhai mynydau, yr oeddym mewn ymdrech ffyrnig, y naill a'r llall ar ei oreu o ran medr a hoewder, ac nid ymddangosai yr oruchafiaeth yn pwyso i unrhyw ochr am gryn amser. Parodd llefau Kate ychydig o rwystr i hunan-feddiant Hamilton unwaith, ac wedi ei daflu felly oddiar y wyliadwriaeth, medrais ei gyrhaedd â blaen fy nghleddyf yn ei ysgwydd chwith, ond wedi ymffyrnigo yn fwy herwydd hyn, efe a wasgodd arnaf yn enbyd o hyny allan, a thrwy symudiad hynod o gelfydd a hoew, efe a ddirdroiodd y cleddyf o'm llaw, ac a'i taflodd gan chwyrnellu i'r awyr. Erbyn hyn yr oeddem wedi ein hamgylchynu gan gwmni lluosog o'r palas, yn cael en blaenori gan neb llai na'r Frenines Catherine ei hun, yr hon wedi clywed llefau ei mherch fabwysiedig a brysurasai i'r lle.
“Rhag cywilydd, fy Arglwyddi,” meddai; “a feiddiwch chwi aflonyddu ar heddwch a thawelwch ein cartref â'ch cwerylon a'ch cynhenau personol a gwael eich hunain; a hyny fel hyn a fewn clyw o'r palas? Beth! Arglwydd St. Vincent, yr oeddym wedi clywed eich bod chwi yn gynllun o urddas a boneddigeiddrwydd ymddygiad; ond y mae y dull yr ydych yn dal eich cymeriad yn fynu yn ymddangos i mi yn rhyfedd iawn. A chwithau, fy Arglwydd Dduc,” meddai, gan droi at Hamilton, “rhy brin yr ydych yn teilyngu y ffafr yr ydy, wedi eich gwneuthur yn wrthddrych o honi, os ydych yn caniatau i eiddigedd segur a chwerylon gwael fel hyn i ymhyru â'ch dedwyddwch. Rhoddwch eich cleddyfau heibio, foneddigion, ac na adewch i'r fath ffolineb eich diraddio byth drachefn. Ernest, rhoddwch eich braich i fy merch fedydd; gwelwch hi, y mae wedi ei dychrynu o'r bron i farwolaeth, ac arweiniwch hi i'r palas; mi ddeuwn ninau i'ch canlyn gyfag Arglwydd St. Vincent.” — (I'w barhau.)
Y Ddwy Chwaer - Y Frythones Cyfrol 1 Rhif 3, Mawrth 1879 - Ffeithiau Hanesyddol
“Bu raid i ni felly,” ychwanegai Arglwydd St. Vincent, “enhuddo ein digofaint am y pryd hwnw, a dychwelyd i'r palas, ond rhy brin y medrwn i guddio y tân oedd yn cyneu y tufewn i mi. Gan gymeryd arnaf wneuthur ymddiheuriad gostyngedig i'r frenines, am y cyffro yr oeddwn wedi ei achosi, erfynais arni yn rasol ganiatau i mi ymneillduo am ychydig, fel y gallwn i ryw fesur adfeddianu fy hun. Rhoddodd ei chydsyniad ar unwaith; prysurais inau o'r golwg, a dyfeisiau enbyd yn gwau trwy fy ymenydd. Penderfynais ddychwelyd ar unwaith i Lundain, er chwilio allan ryw ddyfais i ddwyn pen Hamilton i lawr, ac felly enill Kate yn eiddo i mi fy hun. Heb wneuthur ond nesaf i ddim ymbarotoad, prysurais i ymadael; a'r dydd canlynol, yr oeddwn gerbron y brenin Harry. Dangosais i'w Fawrhydi i mi gael ffafr arbenig yn ngolwg y bendefiges deg, a'i bod yn hollol barod i ddyfod yn wraig i mi; ond fod y frenines Catherine, yn herwydd rhywbeth neu gilydd, yn ffafrio Hamilton yn fwy, ac felly wedi cymhell a denu ei mherch fedydd i roddi ei haddewid iddo ef yn hytrach. Dangosais i'w Fawrhydi mai er mwyn ei flino ef y gwnaeth y Frenines Waddolog hyn, o herwydd tybied o honi fy mod i yn fwyaf yn ffafr y brenin. I gynhyrfu ei gywreinrwydd a'i ddrwg-dymher yn fwy, dywedais mai un o amodau pendant y briodas a fyddai, nad oedd y Duc ar unrhyw bryd, nac ar unrhyw gyfrif i ganiatau i'w wraig ymddangos yn y llys, nac i gael ei gweled ar unrhyw achlysur gan y brenin Harry. Dywedais fod teimlad y frenines o eiddigedd yn gyfryw, er ei bod hi ei hun wedi ei diorseddu yn serchiadau y brenin gan Ann Boleyn, nas gallai feddwl caniatau i'w lygaid ddisgyn ar y fath degwch ag eiddo Kate. Cafodd fy awgrymiadau dichellgar yr effaith a ddymunwn. Cymerodd tymher nwydwyllt Harry dân ar unwaith; gan ruo o gynddaredd, efe a dyngodd y cawn cyn pen yr wythnos feddiant y trysor eiddigus, y cai y seremoni ei chyflawnu yn Llundain, ac y gwnai efe ei hun weinyddu fel noddwr a thad y briodasferch.
“A gwylient hwy rhag ceisio rhwystro ein hamcan ” meddai; “cant weled y mynwn fod yn drechaf yn ein brenhiniaeth ein hunain.”
Yr un prydnawn, mewn ysbryd uchel gan lwyddiant fy anturiaeth gyda'r brenin, yr oeddwn eto ar fy nhaith i swydd Huntingdon, a chenyf lythyrau oddiwrth ei Fawrhydi yn fy awdurdodi i orchymyn llaw Kate de Montford; a'r hyn oedd i mi yn fwy fyth o fwynhad, yr oedd etifeddiaethau Ernest, Duc Hamilton, i gael eu hatafaelu, ac yntau ei hun, os y gwnai yn uniongyrchol neu anuniongyrchol wrthwynebu y gorchymyn breninol o berthynas i'r bendefiges ieuanc, i gael ei gyhuddo o deyrnfradwriaeth.
Wedi fy nhra-dyrchafu gan y gobaith o gael pen fy nghydymgeisydd balch i lawr, cyrhaeddais Kimbleton, ac wedi disgyn oddiar fy march, heb ond yn brin ganiatau i mi fy hun amser i newid fy ngwisg, prysurais i ymddangos ger bron y frenines Catherine.
Yr oedd oddeutu wyth o'r gloch yn yr hwyr, a hysbyswyd fi fod ei Mawrhydi breninol mewn gwasanaeth yn y capel. Ni pharodd y newydd hwn i mi lawer o syndod, gan y gwyddwn yn dda am ei harferion manwl hi o ddefosiwn crefyddol. Penderfynais, pa fodd bynag, i fynu ei gweled, ac felly, mi gyfeiriais fy nghamrau yn uniongyrchol tua'r Eglwys; aethum i fewn, a gadawaf i chwi ddyfalu fy nheimladau yn ngwyneb yr olygfa a ymagorodd yno ger fy mron.
Ar risiau yr allor, prin yn weledig yn ngoleuni y cyfnos, safai yr ardderchocaf Archesgob York. Mewn trefn oddiamgylch iddo, yr oedd y Frenines Catherine, a rhyw nifer o'i gweinidogion benywaidd; ond y gwrthddrych a hoeliodd fy sylw i arni ei hun ar unwaith oedd Kate de Montford, yn sefyll wrth ochr Duc Hamilton, a'r hwn yr oedd newydd gael ei hun o mewn priodas. Mi allaswn ruthro yn mlaen, a'u hoffrymu ill dau yn aberth i'm dialgarwch risiau yr allor santaidd hono; yn wir meddyliais, bwriedais wneuthur hyny, ond aeth teimlad o gysegredigrwydd y lee, gwynebpryd urddasol y dyn santaidd pan yn y weithred o gyhoeddi y fendith briodas, ac uwchlaw y cwbl, harddwch angylaidd Kate yn ei gwisg wen syml, yn darlun perffaith o ddiniweidrwydd a phurdeb, yn drech na'm nwyd gynddeiriog — parlyswyd fi; pwysais yn erbyn un o'r colofnau, a chydag ymenydd gorphwyllog, gwelais a chlywais y seremoni yn cael ei chwblhau, a'r ffiaidd Hamilton yn cofleidio y creadur digymhar yn ei freichiau ei hun. Rhuthrais yn mlaen atynt o'r diwedd, a chyda gafael ffyrnig ag un law, tynais hi oddiwrth ei ochr, ac a'r llal taflais y papyrau yr oeddwn wedi fy arfogi â hwy i wyneb Hamilton. Wedi eu dychrynu gan fy ymddangosiad disymwth ac aflywodraethus, dyrchafodd y boneddigesau waedd o ddychryn, a Hamilton, gan sathru y llythyrau yn ysgornllyd dan ei draed, a ddyewedodd, —
“Arglwydd St. Vincent, nid yw hwn yn lle i wneuthur arddangosiad o dymher ddrwg. Y mae yn rhy ddiweddar yn awr i ymyru â'r hon erbyn hyn sydd yn wraig i mi, ond ar achlysur arall mwy priodol, mi ofynaf iawn, yr hwn y bydd raid i chwi, er mwyn anrhydedd, ei ganiatau.”
“Ti fradwr gwael ac euog,” meddwn, gan waeddi, yn wir gan ysgrechain, “a wyt yn tybied y gwnawn fy iselhau fy hun trwy wario fy amser ar greadur y bydd ei ben ar blocyn cyn pen nemawr o ddyddiau: bydd, diolch i'r nefoedd, gan wired a bod Harry yn Frenin Lloegr, a chaf finau fyw i weled dy ysgerbwd gwael di ar ysgaffald. Yna mi a gaf fy nial arnat, ac arni hithau, delw dy addoliad hunan-ddarostyngol, meddwn, gan droi at Kate, yr hon yn welw fel marmor, a wylai yn hidl ar fonwes y Frenines.”
Erbyn hyn, ymddyrchai llais yr Archesgob mewn tonau tyner o ymliwiad. Dyrchafai ei law i orchymyn sylw, a chondemniai yn ddifrifol ac yn gryd y rhai a feiddient, drwy eu hymddygiad isel, halogi y lle cysegredig hwnw, ynghyd a dangos anmharch i'w huchelder breninol, ydoedd wedi eu hanrhydeddu fel hyn a'i phresenoldeb.
“Ymneillduwch gyda mi, rasusaf Catherine,” meddai; ac wrthyf fi mewn llais awdurdodol ac afresymol. Ernest, derbyniwch eich gwraig hawddgar, ac arweiniwch hi o'r cyffro blin yma, a fydd, 'rwy'n gobeithio, yr un anhyfryd olaf yn ei bywyd. Anwylwch yr un deg ddiniwed, y mae yn wir deilwng o'ch holl gariad, a'm gweddi ddifrifol ydyw ar i chwi brofi yn fendith arbenig y naill i'r llall.”
Gan ddywedyd hyn, efe a roddodd ei law ar ben yr eneth hawddgar, yr hon, wrth iddi ymgrymu i lawr i dderbyn ei fendith ymadawol, a syrthiodd i lawr wedi ei gorchfygu gan ei chynwrf meddwl, ac a wylodd yn gynhyrfus wrth ei draed. Ymddangosai y dyn santaidd ei hun yn gynhyrfus, wylodd yntau, ac wrth iddo gymeryd ei llaw yn ei eiddo ei hun, a'i rhoddi yn llaw ei gwr, efe a ddywedodd, “Yr wyf yn cyflwyno yr amddifad anwyl hon, a fu yn un o gysuron penaf fy mlynyddoedd diweddar i chwi. Bu yn rhan o'm gofal a'm llafur, yn gystal ag o'm braint, ynglyn a'i hanrhydeddus fam-fedydd, i'w haddysgu o'i mhebyd, ac yn awr wedi sylweddoli o honi y cwbl y gallem ei ddymuno ar ei rhan, y mae ffawd yn ordeinio ein bod i'w rhoddi i fyny. Ond rhaid i ni beidio cwyno, yr ydych chwi, Ernest, yn mhob modd yn deilwng o feddianu y trysor gwerthfawr. Gwasgodd ei wefusau ar ei thalcen gwelw; yna gydag ymostyngiad gostyngedig o flaen yr allor, efe a gychwynodd i droi allan, yn cael ei ganlyn gan y frenines a'r holl gwmni. Myfi fy hun yn unig oedd ar ol, yn ysglyfaeth i'r gynddaredd fwyaf aflywodraethus; ond yn fuan, wedi gweled y papyrau oeddynt eto yn gorwedd ar y llawr marmor, mi a'u cymerais i fynu, gan ddadgan gyda phleser chwerw, eto y mae dialedd, melus ddialedd o fewn fy ngallu.”
Cychwynais ar unwaith yn fy ol i Lundain, ac adroddais i'r brenin mewn geiriau cyfrwys, a lliwiau twyllodrus, yr hyn a gymerasai le. Gwrandawodd arnaf yn awyddus, a rhoddodd i mi warrant i ddal Hamilton, yn erbyn yr hwn erbyn hyn yr oedd cyhuddiad o deyrnfradwriaeth wedi ei ddwyn a'i brofi. Cefais y boddhaf o'i glywed yn cael ei gyhoeddi drwy heolydd Llundain gan griwr cyhoeddus fel bradwr, a gwobr yn cael ei chynyg am ei fywyd; ond hyd yn nod eto nid oedd fy nialgarwch wedi haner ei foddloni.
Daeth y son yn fuan ei fod ef a'i wraig wedi ymadael o Kimbleton, y boreu ar ol briodas; tybid fod yr Archesgob wedi clywed am y warrant, ac wedi eu cynorthwyo i ddianc, oblegid ni chlywsid gair o son am danynt er y diwrnod hwnw. Ac er fod gwobr uchel wedi ei chynyg am ben Hamilton, yr oedd hyd hynny wedi llwyddo i osgoi llaw cyfiawnder, a threchu holl gyfrwysdra a dyfalwch ei erlynwyr.
“Yn awr,” meddai Arglwydd St. Vincent, ar ol cymeryd ei anadl, “y mae genyf i adrodd i chwi y rhan fwyaf ddyddorol o'r hanes, a thestyn fy llawenydd heddyw. Y ddoe, wrth grwydro hyd y clogwyni, dipyn o bellder oddiyma, cefais fy nharaw yn syn gan ymddangosiad plentyn tlws, yn chwareu mewn gardd fechan o flaen drws bwthyn isel. Ei wallt cyrliog, prydferth, a'i lygaid pert a dynasant fy sylw gyntaf, ond wrth sylwi yn fanylach, gwelais ynddo debygrwydd anarferol i'r un a adnabuaswn fel Kate de Montford, ac nis gallaswn roddi i fyny edrych arno. Arosais am lawer o fynydau i chwareu â'r plentyn; ystyriais, rhyfeddais, pan yn mhen ychydig, clywn lais tyner o'r tufewn yn dywedyd, “O! Kate, dyna Syr Edward y tuallan gydag Ernest bach, a'r foment nesaf, dychymygwch fy nheimlad, wele Kate de Montford a'i chwaer Mary yn dyfod allan o'r bwthyn, ac yn ymddangos ger fy mron!”
Erbyn hyn, yr oedd dyddordeb yr ystori yn angerddol i Syr Edward Seymour. Yr oedd wedi gwrando o'r dechreu gyda'r dyfalwch mwyaf cynhyrfus a chwilfrydig; ond yr oedd ei ddrwg-dybiau erbyn hyn wedi troi yn sicrwydd; gwelodd nad oedd y prif gymeriadau yn y ystori hon o anghyfiawnder a brad, yn neb amgen na'r rhai yr oedd efe er's hir amser bellach wedi teimlo y fath ddyddordeb ynddynt. Erbyn hyn yr oedd yn eithafol o gynhyrfus, ac eto yn ymdrechu cuddio ei deimladau; a'r Iarll, wedi ei gymeryd i fynu yn gymaint gan ei feddyliau ei hun am yr hyn yr oedd yn ei adrodd, ac heb sylwi ar effaith ei ystori ar ei gyfaill, a ychwanegai; —
“Edrychasom y naill ar y llall, ac adnabuasom ein gilydd! Rhuthrodd holl wrid ei nhatur i wyneb Kate ar unwaith, ond ciliodd yn ol yn fuan, a gadawodd hi yn welw fel marmor, ac oni buasai i'w chwaer redeg i'w chynorthwyo yn union, buasai wedi syrthio i'r llawr. Prysurais yn mlaen tuag ati, a rhoddais hi i eistedd ar seddwiail yn y fan hono. Edrychais arni, yn awr yn hollol ddideimlad; yr oedd o hyd yn brydferth, ac eto wedi cyfnewid llawer, o'r pryd y gwelais hi gyntaf. Nid ymddangosai y chwaer yn fy adnabod i, ond yr oeddwn i yn ei chofio hi yn dda, er nad oedd ond plentyn dair blynedd yn ol, ac yr oedd yn awr yn gynllun perffaith o'r hyn ydoedd Kate y pryd hwnw. Petrusais am rai mynydau pa gwrs i'w gymery, ond o'r diwedd penderfynais ymneillduo am ychydig, ac yna gyda'ch cymhorth chwi i gynllunio yn fanwl ar gyfer y dyfodol.”
Yr wyf wedi clywed luaws o weithiau er pan ar ymweliad a'ch teulu chwi, y tybir fod y bwthyn yna yn cael ei breswylio gan wraig i for-leidr enwog, fel nad oes ynwyf un amheuaeth, er dygwyddiad y dydd ddoe, na ddarganfyddaf yn y dyn hwn fy ngelyn a'm cydymgeisydd y Duc o Hamilton, ac yr wyf yn benderfynol i droi fy ngwybodaeth yn fantais i mi fy hun. Efallai y gallaf eto gael fy nial. Efallai y gallaf eto ei ddifeddianu o'i drysor, ac y caf wraig Hamilton yn barotach i wrandaw arnaf na Kate de Montford. Nis gall y sefyllfa y mae ynddi yn awr fod yn un o lawer o fwynhad iddi, heblaw fod priodas yn gwneyd llawer o gyfnewidiad yn y galon; gall y bydd yn dda ganddi gael cynyg o ymwared. Os y llwyddaf i ddwyn y trysor o fonwes fy ngelyn, bydd yn dialedd cyflawn a gogoneddus! Ond rhaid i mi dynu fy nghynlluniau yn dda, ac ail-ymweled a'r bwthyn dyddorol ar ben y glogwyn. Gall na phair fy ymddangosiad gymaint o gynhwrf y tro nesaf, wedi i fraw yr ymddangosiad cyntaf fyned heibio.
Ar hyn, ymwahanodd y ddau bendefig ieuainc, y naill a'r llall yn gwbl ymroddedig i'w feddyliau ei hun.
(I'w barhau.)
Y Ddwy Chwaer - Y Frythones Cyfrol 1 Rhif 4, Ebrill 1879 - Ffeithiau Hanesyddol
Yr oedd Syr Edward Seymour bellach yn ddiamynedd o awyddus i ymweled â'r bwthyn ar ben y graig, ac i gynyg ei wasanaeth i'r merched anffodus a diamddiffyn, y rhai yn awr, fel y gwelai, oeddynt mewn cymaint o angen cydymdeimlad a help. Hiraethai y cyfnos, a phan ddaeth, ac y gwelodd Syr Edward fod holl breswylwyr y castell yn ddwfn yn nghyfeddach gwin a llawenydd, arferol iddynt hwy ar y oriau hyny, efe a lithrodd i lawr i'r traeth at ei ysgraff, ac mor gyflym a'r goleuni o'r bron, efe a dynodd heibio i drwyn y graig i'r gilfach yr arferai dirio ynddi, pan yn ymweled â'r chwiorydd. Prysurodd i fynu hyd y graig serth, ac, megys mewn mynydyn, yr oedd wrth y bwthyn; ond yr oedd dystawrwydd bygythiol ac anarferol yn teyrnasu yn mhobman. Nid oedd y tro hwn unrhyw lais tyner yn ei roesawi, fel y byddai arferol; yr oedd y cwbl yn ddystaw ac anghyfaneddol. Galwodd drachefn a thrachefn, ond yr adsain oddiwrth y muriau moelion oedd yr unig atebiad. Edrychodd o gwmpas, archwiliai bob congl o'r anedd fechan; dychwelodd i wneuthur hyny luaws o weithiau, ond nid oedd un argoel o'r preswylwyr blaenorol yn ymddangos. Yn ofer yr arosai ac y dysgwyliai yn bryderus hyd nes yr oedd y nos yn cau am dano. Yr oedd yn ddiamheuol fod y chwiorydd wedi ymadael, heb adael o'u hol unrhyw gyfarwyddyd yn mha le na pha fodd i'w cael drachefn. Yr oedd ei galon ynddo yn llesgau can yn ymofidio wrth feddwl am yr hyn raid fod teu teimladau hwy pan yn gorfod ymadael o'r fan ddyddorol fuasai ddyogelwch, os nad cartref, iddynt am gyhyd o amser; a'r hyn, fel y tybiai yn ddirgel ynddo ei hun, raid fod cyni calon yr anwyl Mary wrth adael o'i hol fangre adgofion mor felus. Ac yna, os oedd dyfaliadau Arglwydd St. Vincent yn gywir, beth nad oedd i'w ofni? Nis gallai, ni feiddiai ganlyn ei ddyfaliadau ei hun, felly efe a ddychwelodd yn bruddglwyfus i'r castell, yno i alaru, yn unigedd ei ystafell, am yr hon y teimlai yn awr ei bod yn anwylach ac agosach iddo nag hyd yn nod ei fywyd ei hun.
Yr eglurhad ar yr amgylchiadau dyeithr hyn oedd a ganlyn: — Pan yr ymddadebrodd Kate o'r llewyg y syrthiasai iddo ar ymddangosiad Arglwydd St. Vincent, edrychodd yn wyllt a dychrynedig o'i chwmpa, gan ddysgwyl gweled eto yr hyn y tybiai o'r bron mai drychiolaeth ydoedd, ond hysbysodd Mary hi fod y boneddwr wedi dweyd y dychwelai yn fuant i holi ei helynt, gan obeithio ei chael wedi llwyr ymadferu. “Mary,” meddai Kate, yn ddychrynedig iawn, “rhaid i ni fyned oddiyma; rhaid i ni beidio colli moment, neu ni a fyddwn yn golledig.” A chyda gwylltineb gorphwyllog o'r bron, hi a ymaflodd yn y plentyn, ac a ddechreuodd yn union yn ymbarotoi i ymadael.
“O'r anwyl! i ba le yr awn ni?” meddai Mary, calon yr hon a doddai ynddi wrth feddwl am adael y lle fuasai iddi yn ddiweddar fel nef o'r bron. “Rhaid i ni ddianc i Ogof y Cawr,” meddai Kate, “ac yno, rhwng y creigiau oerion, ddysgwyl dychweliad fy anwyl Ernest. O'r anwyl! 'rwy'n gobeithio y gwna y Nef drugarog ei amddiffyn rhag yr anfad-ddyn Arglwydd St. Vincent.”
Casglwyd yn nghyd yn frysiog yr ychydig ddillad a phethau ereill oedd ganddynt, gwnaed yn sypyn. Cynorthwyai Mary, er yn drom iawn ei chalon, a'r hen nurse, fuasai gydymaith ffyddlawn iddynt am lawer o flynyddoedd. Ar ymestyniad cysgodau cyntaf yr hwyr, cychwynasant i chwilio am y drigfan unig ac oer, oedd bellach, am ryw gymaint o amser, i fod yn gartref iddynt. Gan ganlyn llwybr hir a throellog, adnabyddus i nemawr neb, ond iddynt hwy eu hunain, cyrhaeddasant yn fuan i'r ogof, ac aethant i mewn. Yr oedd Ogof y Cawr yn ystafell eang a thywyll wedi ei hagor a'i chafnu gan natur yn y graig ddofn; yn mhen pellaf yr hon yr oedd mynedfa fwaog yr hon a arweiniai i ddwy o ystafelloedd lai, wedi en rhanu y naill oddiwrth y llall gan law dyn. Rhoddodd Kate ei llaw ar glo dirgelaidd, ar yr hyn yr ymagorodd drws bychan, ac aethant i gyd i mewn i drydedd ystafell, yn yr hon oedd dau wely, nifer o gadeiriau, lle tân, ac ychydig lestri coginio. Edrychai y merched o gwmpas ar y ceudwll erchyll, a theimlent ddychryn. Goleuwyd canwyll gan yr hen nurse, ond ni wnaeth hyny ond dangos yn eglurach furiau tywyllion eu trigle tanddaerol, unigrwydd ac enbydrwydd yr hon a wneid yn fwy fyth gan ru dialgar a gwancus y tonau, a ymwthient yn mlaen yn eofn i enau yr ogof. Darparasai Ernest y lle hwn i'w wraig a'i dylwyth ar gyfer angenrhaid; ac yr oedd wedi gadael yma gyflawnder o ddefnydd ymborth; ond yr oedd lwc hir wedi ei arwain i gredu na fyddai hi byth dan yr angenrheidrwydd i geisio nodded yn y fath dwll truenus. Yma, pa fodd bynag, y ceisiodd ymlochesu a bod yn dawel am luaws o ddyddiau. Yn mhen ychydig, teimlai ei hun yn ymgefino hyd yn nod â rhu y tonau, a thywyllwch yr ogof; pan ar unwaith, o'r bron yn annysgwyliadwy, cynhyrfwyd ei hysbryd drwyddo, gan dderbyniad y nodyn hwn, a roddwyd i'r hen nurse un prydnawn gan ddyn yn ngwisg morwr, pan feiddiodd hi allan i enau yr ogof i gymeryd y plentyn ychydig i awyr iach.. Rhedai y nodyn fel y canlyn; —
“Yr wyf yn ofni, fy anwyl Kate, fy mod wedi fy narganfod, a bod fy ngelynion wedi cael rhyw foddion i gael hyd i mi, hyd yn nod ar y môr. Yr wyf yn ceisio tynu am y lan, ond ar bob llaw, ac yn mhob cyfeiriad, yn cyfarfod llongau ysbiol y cyllid (revenue cruisers), ac yr wyf yn cael fy ngorfodi i aros allan yn y môr, a gadael i bob cyfleusdra o wynt a thywydd i fyned heibio, heb allu o honof eich cyrhaedd. Peidiwch, er hyny, fy anwylaf wraig, bryderu am fy nyogelwch, nid oes fawr o berygl, yr wyf yn rhy brofiadol bellach i gymeryd fy nal. Fy mhryder penaf i ydyw am danoch chwi; yr wyf yn ofni i chwi ddigaloni o herwydd nad wyf yn gallu eich cyrhaedd mor fuan ag yr addewais, ac felly yr wyf wedi llwyddo i gael ffordd i ddanfon y llinell hon i chwi — dygir hi gan greadur gwrol a ffyddlawn. Yn awr yr wyf yn dymuno arnoch geisio cydweithio â mi ar gynllun i'm gwaredu o'r cyfyngder hwn. Dywedasoch wrthyf fod ein hanwyl chwaer, Mary, wedi ffurfio adnabyddiaeth â Syr Edward Seymour, yr hwn wrth ymholi yn ei gylch, a gefais fod yn un o'r gwyr ieuainc mwyaf cywir, ffyddlawn, a rhyddfrydig. Ymddiriedwch yn ei anrhydedd, a dadguddiwch ein sefyllfa iddo — cewch weled y gwna ei oreu i droi yr helgwn i gyfeiriad arall, ac os y bydd yn bosibl, i hudo y llestr rhyfel (sloop of war) y sydd wedi ei sefydlu ger y lan yna i ffwrdd. Gan gyflymed fy llestr i, gwnaf yn burion a'r rhai llai. Os y gellir gwneyd hyn erbyn prydnawn dydd Mercher, perwch i William, fy negesydd ffyddlawn, roddi arwydd o hyny (gwyr efe pa un) i fynu, ac mi gynygiaf dirio. Yn y cyfamser ymddiriedaf yn fy ser gwarcheidiol, ac yn eich ymdrechion chwithau, fy unig, fy anwyl, fy nigymar wraig. — ERNEST.”
Bu agos i Kate ddyrysu ar dderbyniad y newydd hwn. Gwyddai o ba gyfeiriad y daethai y rhwystrau newyddion hyn; pa fodd bynag, rhaid ceisio cyflawnu dymuniad ei hanwyl ŵr, ac ar ol llawer o ystyriaeth, gan ymddiried yn hytrach yn ngallu Mary i enill calon Syr Edward o'u plaid, ac i geisio eu cynorthwyo, llwyddodd i gael ganddi wneuthur ei goreu i gael hyd iddo. Wedi ei dra-ddyrchafu gan lawenydd i'w gweled unwaith eto, arweiniodd Syr Edward hi i ardd fechan neillduedig dyeithr a gymerasent le er pan gyfarfuent o'r blaen, a'r rhai a'i dygasai hi fel hyn mor annysgwyliadwy i ymddangos o'i flaen. Yr oedd eu cydgyfarfyddiad yn fwy na bod yn ddyddorol i'r naill a'r llall: nis gellir ond dyfalu y tywallt calonau a fu rhyngddynt, a'r ymrwymiadau a wnaed; sut bynag, cyrhaeddodd Mary yn hollol yr amcan o herwydd yr hwn y danfonasid hi allan gan ei chwaer, ac ychwaneg. Addawodd Syr Edward y rhoddid ball ardderchog ar raddeg eang iawn, yn y castell brydnawn dydd Mercher, i'r hwn y gwahoddid cadben y sloop rhyfel, a holl swyddogion y llynges, a'r cyllid drwy yr holl gymydogaeth, fel, o byddai bosibl, y tynid sylw pawb am y prydnawn hwnw at y wledd a'r difyrwch yn y castell.
Dychwelodd Mary i Ogof y Cawr — y drigfan bruddaidd hono yn nghalon y graig, ond yr oedd ei cham yn fywiog, a'i chalon yn llawn o lawenydd. Arllwysodd i glustiau ei chwaer lawer o hanes ei hymweliad â Syr Edward, er hefyd y cadwodd ryw gymaint iddi ei hun. Yr oedd y fodrwy emog, ddysglaer, am ei bys yn profi na fu yr ymddyddan yn hollol gyfyngedig i helyntion Ernest, ac awgrymai y darlun bychan o Seymour a grogai ar ei mhonwes, o byddai y nef drugarog, nad yr ymweliad hwnw fyddai yr olaf iddynt eill dau, o leiaf nad oedd y ddwy galon gynes hyn i anghofio y naill y llall yn fuan. Ac wrth edrych arni yn myw ei llygaid gan ei chwaer, rhyddhaodd Mary ei hun drwy wrid a dagrau, o gryn lawer o gyfrinach ei chalon. Caniataodd fod Syr Edward wedi dadguddio iddi deimladau mwy arbenig na chyfeillgarwch ac edmygedd cyffredin, ac nad allodd hithau gadw yn ol rhagddo yntau deimladau arbenig ei chalon ei hun, a chydnabyddid y gellid ei hystyried bellach fel wedi diweddio ei hun i Syr Edward Seymour. Gwasgai efe am undeb buan a dioedi, ond nis gallai hi, er cryfed ac mor angerddol ei serch, gydsynio â hyny, hyd nes y gwelai ereill oedd yn anwyl ganddi allan o berygl, o'r hyn hefyd ni theimlai yn awr, meddai, fawr o bryder, gan fod yn sicr ganddi y gwnai cynlluniau Syr Edward droi allan yn llwyddianus.
Mor ddirfawr y cafodd ei siomi! Dydd Mercher a ddaeth, a'r wledd yn y castell; cyfodwyd yr arwydd i Hamilton. Daeth cwch bychan i fynu i'r traeth, nid ymddangosai yn rhwystr ar y ffordd, daeth Ernest i dir, a derbyniwyd gyda llawenydd digyfor gan ei anwyl wraig; ond pan o'r bron yn y weithred o'i chymeryd yn ei freichiau, wele gwmni arfog o filwyr yn amgylchynu'r ogof, ac megys mewn mynyd, yr oedd Ernest wedi ei lwytho â chadwynau, ac yn cael ei ddwyn ymaith i garchar.
(I'w barhau).
Y Ddwy Chwaer - Y Frythones Cyfrol 1 Rhif 5, Mai 1879 - Ffeithiau Hanesyddol
Y mae yr olygfa yn ymagor yn awr yn Kimbleton, lle, wedi ei darostwng gan wendid a nych, y gorwedd y Frenines Waddolog anffodus, ar ei gwely marw. Oddiamgylch iddi, â'i dagrau yn hidl, saif eu gweinyddion ffyddlawn, i gyd yn gwir ofidio wrth edrych yn mlaen at yr hyn oedd bellach megys yn anocheladwy. Y mwyaf neillduol o lawer, er hyny, o'r holl gwmni prudd, oedd y gystuddiol Kate, yr hon, wedi ei llwyr orchfygu gan flinder, ac yn welw gan ing meddwl, ydoedd newydd gyrhaedd yno, ac yn awr ar ei gluniau ar bwys gwely y Frenines. Pan ddaliwyd ei hanwyl Ernest wrth enau yr Ogof, ac y dygwyd ymaith mewn cadwynau, mor fawr oedd ei dychryn, fel na feddyliodd am neb a dim, ond ceisiodd ar unwaith brysuro at yr hon yr arferai bob amser edrych i fynu ati, a'i charu fel mam anwyl, i geisio ei chydymdeimlad a'i chyngor hi. Pan gyrhaeddodd, yr oedd y Frenines o'r bron yn nhagfa angeu; ond ymddangosodd fel yn ymadfywio arth weled a theimlo ei phlentyn mabwysiedig hoff. Ymollyngodd Kate yn dorcalonus ar ei gwddf, ac ocheneidoidd allan iddi megys rhwng ton a thon o deimlad drylliog, ystori brudd ei hanffodion diweddar. Ceisiodd y Frenines ganddi, megys â'i hanadl olaf, i ymdawelu, a chynghorodd hi i daflu ei hun ar ewyllys da a hynawsedd y Brenin, ac erfyn arno, â'i holl galon, fod yn drugarog wrth y Duc anffodus.
“Anwylaf Kate,” meddai, “cymerwch y fodrwy hon, dangoswch hi i'r Brenin; dywedwch wrtho mai Catherine Arrogan a'i danfonodd iddo â'i hanadl olaf, ac erfyniwch arno, er ei mhwyn hi, ac er cof am y cariad â'r hwn y carai hi unwaith, i ganiatau i chwi y ffafr a geisiwch. O! y mae efe drwy y cwbl yn garedig; y mae ei natur yn llawn ewyllys da. Ni wna, ni all eich gwrthod. Y nefoedd a'th fendithio, fy mhlentyn anwyl, hoff. Dos at Henry, a dywed wrtho hefyd, mor ddirfawr, â'm llygaid yn cau yn yr angeu, y dymunwn ei weled. Fy Mrenin! fy Arglwydd! a'm Gwr!”
Y rhai hyn oedd ei geiriau olaf, ac wedi darfod o honi eu llefaru mewn acenion toredig, hi a syrthiodd yn ol wedi llwyr fethu, ac a anadlodd ei hanadl olaf.
Edrychai Kate mewn cythrwfl mud, a chan gusanu y priddyn oer am y tro olaf, rhuthrodd allan o'r ystafell.
Ryw foreu hyfryd, yn fuan ar ol dygwyddiad galarus hwn, yr oedd holl ddinas Llundain yn ferw drwyddi gan y dyddordeb a deimlai pawb o'r bron mewn rhedegfa ceffylau oedd i gymeryd lle y diwrnod hwnw yn Greenwich, a'r hon yr oedd y Brenin, y Frenines, a holl bendefigion Lloegr i'w hanrhydeddu â'u presenoldeb. O'r bron ar y foment yr oedd y Brenin yn ymadael am faes y difyrwch, rhwystrwyd ef gan y Prifweinidog, yr hwn a erfyniai ei sylw at fater o ddirfawr bwys. Hyny ydoedd, arwyddo gwarant dienyddiad yr anffodus Dduc Hamilton.
Yn bur ddiamynedd, o herwydd cael aflonyddu dim ar rwysg ei wageddus fryd, ysgrifenodd y Brenin ei enw yn frysiog a difeddwl wrth y weithred enbyd, a brysiodd ymaith i faes y rhialtwch.
Byddai yn hollol anmhosibl desgrifio ardderchawgrwydd yr olygfa a'i cyfarfyddod. O'r bron nad oedd yn gyfartal i faes enwog y “brethyn aur,” ar yr hwn gyda llawer o rwysg y cyfarfuasai frenin Ffrainc yn Calais.
Yr oedd y Brenin wedi disgyn o'r gerbyd, ac yn cerdded yn ei flaen tua'r babell (pavilion) lle yr oedd y Frenines wedi cyrhaedd o'r flaen, pan yn ddisymwth y rhwystrwyd ef gan foneddiges, yr hon gan ruthro drwy y dyrfa, a safodd o'i flaen, a chan blygu yn rasol ar un lin, a gyflwynodd iddo â llaw grynedig, sypyn seliedig. Gwnaeth y swyddogion dan arfau, y rhai yn union a amgylchanasant y Brenin, gynyg i'w gwthio i ffwrdd; ond wedi ei daraw gan ymddangosiad syml, gonest, y creadur anwyl o'i flaen, estynodd y Brenin ei law tuag ati, gan awgrymu iddi gyfodi, ac a ddechreuodd agor y sypyn a estynasai iddo, a mawr oedd ei syndod wrth weled na chynwysai ond modrwy, yr hon a adnabu yn union fel yr un a roddasai i'w frenines flaenorol Katherine, yn fuan ar ol eu priodas.
Dychwelasai Duges Hamilton (oblegid felly y rhaid i ni yn awr alw Kate de Montford), dychwelasai at ei gwr i'r carchar, ar ol ei hymweliad â'r frenines Catherine; ond wedi ei gorchfygu gan flinder a chynhwrf meddwl, syrthiodd ar unwaith ar wely cystudd, yr hyn a'i cwbl analluogodd hi i wneuthur unrhyw ymdrech ychwanegol.
Mewn canlyniad, ymgymerodd Sy Edward Seymour â chyflwyno neges y ddiweddar frenines Catherine i'r Brenin; ac i'r pwrpas hwnw, cymerodd ei chwaer ei hun i fynu i Lundain, yr hon hefyd bellach a deimlai ddyddordeb anarferol yn nhynged y cyfeillion hyn, ac ydoedd hollol barod i fyned ei hun ar y neges bwysig hon.
Ar eu rhan, yr ydym yn awr yn cael Jane Seymour yn pledio eu hachos â'i holl ddawn swynol a hyawdl. Profodd ymddangosiad y fodrwy yn ormod, hyd yn nod i galon wamal a diwerth y Brenin Harry. Wrth ei gweled, a gwrando geiriau olaf yr hon y gwnaethai efe yn greulawn ei gwrthod, teimlodd rwymau ei ysbryd yn llaesu, rhedodd ei ddagrau yn llif; ac yna, gan edrych gydag edmygedd annhraethol ar y creadur prydferth o'i flaen, arosodd ac ystyriodd am ychydig, tra syllai Jane yn wylaidd-bryderus yn ei lygaid, ac ofn a gobaith, megys bob yn ail, yn taflu goleuni a chysgod dros ei gwyneb hawddgar a llawn o ystyr.
O'r diwedd dywedodd y Brenin, “Dewisodd Catherine un o engyl Paradwys i ddwyn a dadleu ei nheges; a phan ddadleuo angel, pa fodd y gall dyn marwol wrthwynebu. Greadur dyeithr, teg, ni a ganiatawn y maddeuant yr wyt mor anwrthwynebol yn ei geisio, a dywed wrth ei raslonrwydd y Duc y bu ddoeth a ffodus iawn wrth ddewis un i bleidio ei achos, gan mai i'th wyneb hawddgar di yn unig a hollol y rhaid iddo briodoli ein hynawsedd tuag ato.”
Yr owedd hyn yn ddigon; cymerodd yr eneth lawen-galon afael yn y llaw a estynid tuag ati gyda theimladau yn colli drosodd o ddiolchgarwch, ac eto gyda phob boneddigeidrwydd ac urddas-ymddygiad; ac wedi ei gwasgu yn grynedig at ei gwefusau, a ddiflanodd o'r golwg megys mewn mynydyn, gan adael y Brenin mewn syn ryfeddod at y ddrychiolaeth o anwyldeb a thegwch a ymddangosai o'i flaen.
Ychydig a dybiai yr un ieuanc ddiniwed, pan ddychlamai ei chalon o lawenydd wrth iddi ddyfod yn ol at ei brawd, yr hwn a ddysgwyliai am dani ychydig o'r fan hono — ychydig a feddyliai yr argraff a wnaethai ei gwyneb gonest ar y Brenin, a'r fath ddygwyddiadau mawrion a phwysig a ganlynent ei hymweliad ag ef y diwrnod hwnw.
Cyn terfyn y dydd — y dydd hwnw, yr oedd yr enwog a'r anffodus Anne Boleyn wedi ei thaflu yn ddiseremoni oddiar yr orsedd y cyfodasid hi iddi ychydig yn flaenorol, ac ar yr hon y derbyniasai warogaeth a sylw yr holl genedl. Yn degan nwyd a phenchwibandod yr hwn a alwai yn arglwydd ac yn feistr, difuddiwyd hi a aethai allan y boreu hwnw yn falch o'i harddwch ac o'i hurddas, ei hysbryd wedi ei dra-dyrchafu gan yr edmygedd amlwg a gynyrchai ei phresenoldeb ar bob llaw — difuddiwyd hi ar unwaith o'i chlod ac o'i bywyd. A chyda hi, yn cael ei gyhuddo o fod yn gydgyfranog o'i chamwedd, syrthiodd Arglwydd St. Vincent, i beidio cyfodi drachefn.
Ni fuasai cyfoeth a dyrchafiad, gobeithion dysglaer am y dyfodol, nac arall, erioed yn nod uchelgais y wylaidd a'r syml Jane Seymour. Ni ddaethai i'w mheddwl ar unrhyw adeg am eistedd ar unrhyw orsedd o fri; ond wele hi, heb yn wybod iddi o'r bron, wedi ei dewis gan y Brenin i fod yn gydgyfranog âg ef o orsedd Lloegr.
Wedi ei dwyn i fynu a'i haddysgu gryn bellder o'r llys, ychydig a wyddai am dymher a thueddiadau yr hwn oedd yn awr ar fin ei hanrhydeddu â'r gogoniant daerol penaf o fewn ei deyrnas.
Wedi cael ymddiried iddi y neges bwysig am fywyd y Duc Hamilton at y Brenin, yr oedd ei natur fwyn a rhagorol wedi ei chynhyrfu i'r radd uwchaf o deimlad, a'i gwedd i'r radd uwchaf o berffeithrwydd tegwch. Apeliai at y Brenin â holl swyn ei gwynebpryd a'i llais; a chan fod ei nhatur garedig a thyner yn un a werthfawrogai i'r pen pellaf ei weithred ef o drugaredd, ni chymerodd amser hir iawn i droi ei diolgarwch yn gariad ac edmygedd, fel yn fuan hi gydsyniodd i roddi ei llaw i Frenin Lloegr.
Cafodd Edward Seymour, yr hwn a bleidiai achos y Brenin, ei wneuthur yn Ardalydd Hertford, ac yn fuan wedi hyny yn Dduc Somerset; a chyda gorfoledd annhraethadwy efe a frysiodd i hawlio ei ddyweddi. Wedi ei chael, dygodd hi, a Duc a Duces Hamilton, ger bron ei chwaer, yn awr ar gael ei gwneuthur yn frenines Lloegr. Wylent oll yn mreichiau eu gilydd, wrth adgoffa ac adgofio y dygwyddiadau a'r ffawdiau gwylltion y daethent drwyddynt; ond yr oedd eu dagrau yn ddagrau gorfoledd, a chladdwyd yr holl anffodion yn fuan mewn ebargofiant.
Ar yr un dydd ag yr unwyd Harry yr Wythfed â'r brydweddol a'r rhinweddol Jane Seymour, gwnaed Mary hefyd y ddedwyddaf o fenywaid — gwnaed hithau mewn tawelwch a thangnefedd yn wraig i Edward Seymour.
Gwnaed Ducesau Hamilton a Somerset yn Ladies of Honour blaenaf y frenines newydd, ac ni welwyd tair creadur tecach ac anwylach erioed ar bwys eu gilydd.
Gan fod yn falch iawn o'r wobr yr oedd efe ei hun wedi ei henill, nid eiddigeddai y Brenin, er cymaint ei drachwant, ddim wrth ei gyfeillion; ac o'r ddau wr ereill, y mae yn anhawdd dweyd pa un oedd y mwyaf i eiddigeddu wrtho, am nad allai neb benderfynu pa un oedd i'w hedmygu, i'w gwerthfawrogi, ac i'w charu yn fwyaf o'r DDWY CHWAER.
“Cynddaredd dyn a'th foliana di, a gweddill cynddaredd a waherddi.”
(Diwedd).